Trefniadau

Nos Wener Twmpath yng Ngwesty'r Angel
Dydd Sadwrn Cyd-ddawnsio yng ngerddi Castell Caerdydd.
Gorymdaith trwy strydoedd canol y Ddinas i'r lawnt o flaen Neuadd y Ddinas i godi'r Pawl a chyd-ddawnsio.
Teithiau o gwmpas y Ddinas a’r Fro – Cinio a dawnsio.
Cyd-ddawnsio yng ngerddi Castell Caerdydd fel rhan o 'Diwrnod o Jowstio' yna.
Nos Sadwrn Taplas yn Neuadd y Ddinas sydd hefyd yn achlysur i ddathlu pen-blwydd Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn 40 oed.
Bore Dydd Sul Gweithdy Dawns yng Ngwesty'r Angel

Arrangements

Friday Evening Twmpath at the Angel Hotel
Saturday Massed dancing in Cardiff Castle grounds
Procession through the streets of the City centre to the City Hall Lawn for the Raising of the Summer Pole and massed dancing.
Tours around the City and the Vale – Lunch and dancing
Massed dancing in the castle grounds as part of the 'Day of Jousting' being held there
Saturday Evening Taplas in the City Hall which will also be an occasion to celebrate the 40th Birthday of Cwmni Dawns Werin Caerdydd
Sunday Morning Dance Workshop at the Angel Hotel

Trefniadau Bwcio

Er mwyn cael manylion am docynnau a ffurflen bwcio, e-bostiwch bwcio@gwylifan.org

Booking arrangements

For details of tickets and booking forms, email bookings@gwylifan.org

Lluniau Gŵyl Ifan 2008

Photos of Gŵyl Ifan 2008

Hanes

Cynhaliwyd yr Ŵyl Ifan gyntaf yng Nghaerdydd yn 1977. Yn y dyddiau cynnar gŵyl un diwrnod ydoedd gyda'r timoedd dawnsio yn cwrdd mewn nifer o leoliadau i ddawnsio ac yna'n dod at ei gilydd ar ddiwedd y dydd. Doedd dim trefniadau cludiant na llety ac roedd yr ŵyl drosodd mewn amrantiad.

Erbyn heddiw mae'r ŵyl yn ymestyn dros dridiau ac yn cael ei threfnu gan bwyllgor sy'n cwrdd yn rheolaidd i gydlynu'r gwahanol ddigwyddiadau a threfnu llety, cludiant, mannau bwyta a dawnsio ar orymdaith drwy ganol Caerdydd.

Mae'r Taplas ar y nos Sadwrn yn un o uchafbwyntiau'r ŵyl a'r gweithdai dawns a cherddoriaeth wedi datblygu dros y blynyddoedd ac yn gyfle i bawb flasu dawnsiau o wahanol wledydd a chyfle i ddysgu rhagor am gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

History

The first Gŵyl Ifan was held in Cardiff in 1977. In the early days the festival was a one day affair with dance teams meeting in various places to dance and then joining together at the end of the day. There were no transport or accommodation arrangements and the whole festival was over in a flash.

By today the festival is held over three days and is arranged by a committee which meets regularly to co-ordinate the various activites and to arrange accommodation, transport, eatng and dancing venues and the procession through the centre of Cardiff.

The Taplas on Saturday night is one of the highlights of the weekendand the dance and music workshops have developed over the years to five everyone the opportunity to have a go at dances from different countries and a chance to learn more about traditional Welsh music.

Cysylltu â ni

Os hoffech gael mwy o wybodaeth ynglŷn a'r Ŵyl, cysylltwch â:

Dai James,
50 Prospect Drive,
Llandaf,
Caerdydd,
CF5 2HN

Ffôn: +44 (0) 29 2056 3989

E-bost: post@gwylifan.org

Contact us

If you'd like more information about the Festival, feel free to contact:

Dai James,
50 Prospect Drive,
Llandaf,
Caerdydd,
CF5 2HN

Phone: +44 (0) 29 2056 3989

E-mail: post@gwylifan.org